With wall to wall sunshine again this week the contractors have been making some serious progress on site. As we alluded to in last weeks the heavy plant is now on site and making big inroads in to the job at hand.



For those of you not familiar with the history of our site at Abergwili. When the final phase of the Carmarthen bypass was built in 1998/1999 our site was used as a ‘borrow pit’. This means that good material was remove from the site to help build embankments further down the bypass whilst poor quality was brought back to the site for storage. This has resulted in a site with many different levels and varying soil qualities. As a result our car park designer Simon has spent a huge amount of time working out how to move soil around the site to achieve a consistent height in the finished car park.

As can be seen from the above photo there are some part of the site where the ground level needs to be raised quite significantly. Thank fully we have sufficient material onsite that we can achieve these new levels without the need to import large quantities of material to site.

Finally taking advantage of the nice still weather on Sunday afternoon, we took up the offer of one of our supporter to do a spot of droning filming over the site. The images and video’s we managed to capture are very exciting and will allow us to show you a totally different view of the project, so watch this space!

Haul di-ri!
Gyda heulwen di-ri eto’r wythnos hon mae’r contractwyr wedi bod yn gwneud llawer o gynnydd ar y safle. Fel y nodwyd yn y blog o’r blaen yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r peiriannau trwm bellach ar y safle ac yn gwneud cynnydd mawr.
Mae’r safle bellach wedi’i glirio a’i fflatio
Edrych y ffordd arall.
Y ffordd newydd i mewn yn dechrau siapio.
I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â hanes ein safle yn Abergwili. Pan adeiladwyd cam olaf ffordd osgoi Caerfyrddin ym 1998/1999 defnyddiwyd ein safle fel ‘pwll benthyg’. Mae hyn yn golygu bod deunydd da wedi’i symud o’r safle i helpu i adeiladu argloddiau bellach lawr y ffordd tra bod deunydd ansawdd gwael yn cael ei gludo’n ôl i’r safle i’w storio. Mae hyn wedi creu safle gyda llawer o wahanol lefelau a mathau pridd amrywiol. O ganlyniad mae ein dylunydd maes parcio, Simon, wedi treulio llawer iawn o amser yn cynllunio sut i symud pridd o amgylch y safle i gyrraedd lefel cyson yn y maes parcio gorffenedig.
Mae gwaelod y bwrdd gwyrdd yn dangos lefel y maes parcio gorffenedig
Fel y gwelir o’r llun uchod mae yna ran o’r safle lle mae angen codi lefel y ddaear yn eithaf sylweddol. Diolch byth mae gennym ddigon o ddeunydd ar y safle i gyrraedd y lefelau newydd hyn heb fod angen mewnforio llawer iawn o ddeunydd i’r safle.
Edrych i’r De tuag at ardal y sied gerbydau newydd.
Gan fanteisio ar y tywydd llonydd braf brynhawn Sul, fe wnaethom dderbyn cynnig un o’n cefnogwyr i wneud ychydig o ffilmio gyda drôn dros y safle. Mae’r delweddau a’r fideos yn gyffrous iawn a byddant yn caniatáu inni ddangos golwg hollol wahanol i chi o’r prosiect, yn y dyfodol agos! Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gefnogi gan
This project has been supported by



Leave a Reply