Wake me up when September ends!

Visual progress on site has slowed down over the last few weeks with focus shifting toward the underground infrastructure. There however has still been plenty of progress on a lot of fronts.

Ties waiting to be used for pulling cables.

Elsewhere on site a start has been made on installing the curbing stones that will form the permeant access road in to and out of site.

Work on the installation of the access road proper will ramp up over the next few weeks. Once the access road has been built the final earth pile (seen below right) can be moved creating the final finished car park area.

Looking north with the Car park area now clearly taking shape

Alongside the contractors a team of Permeant way volunteers has made a start on slewing the track that made up the headhunt at Abergwili.

This work is an important first step in the construction of our carriage shed, as it now allows us to mark up and lay the foundations for the shed.

Whilst visual progress has slowed some what, a huge amount of time has been put in by the project team with site meetings and design and legal work in the background. This has seen the following achieved

  • Agrement with Western Power for the Diversion of the 11Kv cables.
  • The sign off of a sections 278 agreement with Carmarthenshire Country council
  • Finalising of the internal site electrical plans
  • Final design work on the Dan Do Carriage shed ready to go for tender.
  • Final design work on pedestrian access to the site

A lot of this is extremely technical work and were are indebted to those that have provide their professional expertise on these element of the project at no cost to the railway.

O am ddiwedd yr hâf!

Mae cynnydd gweledol ar y safle wedi arafu dros yr ychydig wythnosau diwethaf gyda ffocws yn symud tuag at y seilwaith tanddaearol. Fodd bynnag, mae llawer o gynnydd wedi’i wneud o hyd.

Mae siambrau archwilio wedi bod yn ymddangos ar hyd a lled y safle wrth i’r pibelli ar gyfer cyflenwadau dŵr a thrydan o amgylch y safle gael eu gosod cyn gosod gwyneb terfynol y maes parcio.

Clymau aros i gael eu defnyddio ar gyfer tynnu ceblau.

Mewn mannau eraill ar y safle dechreuwyd gosod y cerrig ymylu a fydd yn ffurfio’r ffordd terfynol i mewn i’r safle.

Ffordd fynediad yn siâpio

Bydd gwaith ar osod y ffordd iawn i mewn i’r safle yn cyflymu dros yr ychydig wythnosau nesaf. Unwaith y bydd y ffordd i mewn wedi’i hadeiladu gellir symud y pentwr pridd terfynol (a welir isod ar y dde) gan greu’r maes parcio gorffenedig.

Edrych tua’r gogledd gyda’r siâp maes parcio bellach yn amlwg.

Ochr yn ochr â’r contractwyr mae tîm o wirfoddolwyr Adran Cledray y rheilffordd wedi dechrau ar y gwaith o dorri’r cledrau oedd yn rhan o’r seiding yn Abergwili.

Mae’r gwaith hwn yn gam cyntaf pwysig yn y gwaith o adeiladu ein sied gerbydau, gan ei fod bellach yn caniatáu inni farcio a gosod y sylfeini ar gyfer y sied.

Er bod cynnydd gweledol wedi arafu rhywfaint, mae tîm y prosiect wedi treulio llawer iawn o amser gyda chyfarfodydd safle a dylunio a gwaith cyfreithiol yn y cefndir. O ganlyniad mae’r canlynol yn cael eu cyflawni

Cytundeb gyda Western Power ar gyfer Dargyfeirio’r ceblau 11Kv.

Cymeradwyo cytundeb adran 278 gyda Chyngor Sir Caerfyrddin

Cwblhau cynlluniau mewnol trydanol y safle

Gwaith dylunio terfynol ar sied cerbydau Dan Do yn barod i fynd i dendr.

Gwaith dylunio terfynol ar fynediad cerddwyr i’r safle

Mae llawer o hwn yn waith technegol dros ben ac rydym yn ddyledus i’r rhai sydd wedi darparu eu harbenigedd proffesiynol ar yr elfennau hyn o’r prosiect heb unrhyw gost i’r rheilffordd.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: